Varsity 2015 0

Dwi ddim yn aelod o unrhyw gymdeithas chwaraeon yn y brifysgol. Dwi ddim yn hoffi chwaraeon.  Naii wylio rygbi gan fy mod yn mwynhau’r ochr cymdeithasol a’r daith flynyddol i un o wledydd y chwe gwlad pan fod Cymru’n chwarae yna, ond, mae Varsity yn ddigwyddiad chwaraeon sy’n wahanol, roedd hefyd yn ddigwyddiad oeddwn i’n fwy na barod i fynd iddo!

Cafodd amrywiaeth o gemau eu chwarae rhwng PCYDDS Caerfyrddin a PCYDDS Abertawe, ac eleni, roedd Caerfyrddin yn mynd mewn fel enillwyr y flwyddyn gynt felly roedd y disgwyliadau yn enfawr. Cynhaliwyd digwyddiad mwyaf calendr yr undeb eleni ym Mharc y Scarlets, Llanelli, am ddiwrnod cyfan!