Dylan Davies – BA Addysg Gynradd

Cyn dechrau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yr ofn mwyaf oedd gennyf fel myfyriwr hŷn oedd faint o fyfyrwyr hŷn arall a fydd yna. Tawelwyd fy ofnau yn syth wrth ymweld â diwrnod agored Y Drindod Dewi Sant a siarad gyda’r tiwtoriaid. Dywedwyd wrthyf fod yna groeso mawr i fyfyrwyr hŷn. Ar y cwrs rydw i’n ei astudio, mae yna nifer o fyfyrwyr hŷn.  Wrth grwydro’r campws fe welwch nifer o fyfyrwyr hŷn.

Fel myfyriwr hŷn, pryder arall oedd gennyf oedd cyllid, gan fod nifer o gyfrifoldebau gennyf erbyn i mi ddechrau yn y Brifysgol, fel morgais, biliau a char i’w redeg. Cyn ymgeisio i fynd nôl i astudio, penderfynais godi’r ffôn a siarad gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru. Felly, wrth i mi ffarwelio â’m hugeiniau dyma wneud cais am le yn y Brifysgol. Roedd y broses ymgeisio a chyllid yn ddigon syml. Fel un a oedd yn siarad Cymraeg, cefais wahoddiad i benwythnos y Glas y Coleg Cymraeg.  Teimlais fod hyn wedi bod o fudd mawr gan fod cyfle i grwydro’r coleg cyn i’r myfyrwyr eraill gyrraedd ac ymgyfarwyddo gyda’r campws gan fy mod i yn ‘Geographical Dyxlexic’ ac yn mynd ar goll yn rhwydd iawn.

Erbyn hyn yr wyf wedi gorffen fy ail flwyddyn ac yn paratoi ar gyfer y drydedd flwyddyn.  Bellach mae gofidion dechrau’r Prifysgol yn fy nhridegau yn atgof pell. Yr wyf wedi gwneud ffrindiau da, ac wedi derbyn cefnogaeth tiwtoriaid a staff eraill yn y Brifysgol – nid oes cwestiwn ryn hy fach nac yn rhy fawr i’w ateb. Un o ddywediadau un o’r tiwtoriaid yw – gweithiwch yn galed ond peidiwch â phoeni.

Wrth edrych yn ôl yr wyf wedi derbyn profiadau bythgofiadwy yn y Brifysgol. Yr wyf wedi cwblhau tystysgrif sgiliau iaith gyda’r Coleg Cymraeg, wedi bod ar deithiau gyda’r cwrs ac wedi magu’r hyder i ysgrifennu a siarad yn gyhoeddus, ac rwyf yn trydar a blogio o ran y Brifysgol yn rheolaidd.  Fy neges i chi yw hyn, os ydych yn poeni am ddechrau yn y Brifysgol ac am fod yn hŷn na’r rhan fwyaf o fyfyrwyr eraill, ewch amdani a chofiwch os oes gennych unrhyw ofidion, peidiwch a chadw’n dawel, gofynnwch.